Chwe sefydliad o Gymru’n ennill cyfran o £2.1 miliwn i hybu arloesi sero net yng Nghymru
Dyfarnwyd cyfran o dros £2 miliwn i chwe sefydliad arloesol o Gymru gan Innovate UK — fel rhan o gyllid ‘Rownd 1’ i helpu â’u gwaith i wneud cynnydd tuag at sero net diwydiant yn Ne Orllewin Cymru.
Mae hyn yn rhan o raglen Launchpad Diwydiant Sero Net De Orllewin Cymru — rhaglen a ddatblygwyd gan Innovate UK, yr asiantaeth arloesi genedlaethol, mewn partneriaeth â Diwydiant Sero Net Cymru (NZIW) ar ran Gyngor Sir Penfro a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, a Llywodraeth Cymru.
Fel un o wyth Launchpad a ariennir gan Innovate UK, mae’r prosiectau yn y rownd hon o gyllid Launchpad De Orllewin Cymru yn datblygu technolegau arloesol sy’n cynnwys hydrogen, solar a gwynt arnofiol.
Bydd y derbynwyr yn cael rhagor o help drwy rwydwaith o arloeswyr rhanbarthol o’r un anian, a ddatblygwyd gan y rheolwr clwstwr a ddatblygwyd yn ddiweddar, Diwydiant Sero Net Cymru — corff annibynnol sy’n cefnogi ac yn galluogi diwydiant Cymru i gyflawni sero net.
Meddai Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Sero Net Cymru: “Mae gan arloesi diwydiannol ran allweddol i’w chwarae i gyflawni sero net yn y tymor hir — ac mae cyllid fel hyn yn galluogi sefydliadau i gychwyn ar eu siwrnai.
“Wrth hybu’r economi leol a chyfrannu at dargedu sero net y sefydliadau unigol, mae gan y prosiectau “Rownd 1” buddugol y potensial i chwarae rhan allweddol yn y pontio ehangach i sero net yn Ne Orllewin Cymru a thu hwnt.
“Rwyf yn gobeithio y bydd y rhwydwaith ehangach sy’n cael ei adeiladu yn sgil y cyllid hwn yn helpu i ddenu rhagor o fuddsoddwyr cenedlaethol a rhyngwladol, gan ymestyn allan i’r farchnad fyd-eang – gan roi hwb i’n nod o wneud Cymru’n wlad o ddewis ar gyfer nwyddau a gwasanaethau cynaliadwy.”
Meddal Dean Cook, Cyfarwyddwr Lleoedd a Ffyniant Bro Innovate UK: “Mae’r rhaglen Launchpad yn gweithio i gyflawni ymrwymiad Innovate UK i hybu arloesi lleol a thwf economaidd, gan helpu clystyrau busnes ledled y DU.
“Heddiw, mae’n bleser cyhoeddi manylion cychwynnol y busnesau a’r prosiectau a fydd yn derbyn y buddsoddiad hwn. Rydym yn helpu busnesau yn Ne Orllewin Cymru i ddatblygu a defnyddio datrysiadau arloesol mewn diwydiannau i bontio i sero net.
“Bydd ein buddsoddiad yn hybu twf ar draws y rhanbarth a’r DU drwy helpu busnesau i ddod â datblygiadau arloesol ar y farchnad a fydd yn bwysig i’r economi gyfan ac yn fyd-eang.” Mae’r bartneriaeth Launchpad yn falch o gyhoeddi y bydd y cyfle cyllido nesaf yn agor yn y Gwanwyn — gan roi hwb arall i’r economi leol a helpu Cymru ar ei siwrnai ehangach tuag at sero net. Bydd Innovate UK yn cynnig cyllid “New Innovator” i fusnesau yn eu camau cynnar i ddatblygu syniadau arloesol sydd â llwybr clir tuag at fod yn fasnachol ac i dyfu’r busnes. Gwahoddir busnesau micro a bach sy’n newydd i gyllid Innovate UK i wneud cais am hyd at £50,000 o gyllid grant ar gyfer eu prosiectau.