Clwstwr Datgarboneiddio Diwydiannol Gogledd-ddwyrain Cymru (NEW-ID)

Mae NEW-ID wedi sbarduno’r Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Y genhadaeth? I greu diwydiant y gellir ymddiried ynddo, sy’n gynaliadwy, yn ffyniannus ac yn wydn yn y rhanbarth.

Gan ddechrau gyda gwaith gwych dau Hwb Twf Glân – Fforwm Datgarboneiddio Glannau Dyfrdwy a Chyflawni Sero Net yn Wrecsam – mae NEW-ID yn ymwneud â gwaith tîm. Mae’n dod â sefydliadau rhanbarthol at ei gilydd, eu helpu i gynllunio sut i leihau carbon ac yn sefydlu’r strwythurau cywir ar gyfer datgarboneiddio sy’n seiliedig ar leoedd.

Nod NEW-ID yw lleihau ôl-troed carbon diwydiant y rhanbarth yn sylweddol erbyn 2030 – gyda’r safon aur o ddatgarboneiddio’n llawn erbyn 2050.

Gan gyd-fynd â Chynlluniau Gweithredu Ynni Lleol Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam, mae NEW-ID wrthi’n cydweithio i wneud Gogledd Ddwyrain Cymru yn lle gwyrddach a glanach. Gyda’i gilydd, maen nhw’n gweithio law yn llaw i lywio’r broses o bontio’r rhanbarth tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Wales & West utilities Logo Cwmni
Uniper Logo Cwmni
SP Energy Networks Logo Cwmni
Net Zero Energy Systems Logo Cwmni
Bangor University Logo Cwmni