Cyfarwyddiadau ymuno EmpowerCymru

NZIW


Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi i #EmpowerCymru — y digwyddiad cyntaf o’i fath sy’n cefnogi Cymru ar ei thaith tuag at sero net.

Gweler isod restr o wybodaeth bwysig i’w hystyried cyn y digwyddiad.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch drwy anfon e-bost at NZIW@equinox.wales.

📅  Dyddiad ac Amser: Llun 11 Mawrth, 10am-4pm  

📍 Lleoliad: Ystafell y Postfeistr yng Ngwesty Parkgate, Heol y Porth, Caerdydd CF10 1DA

🎟️ Mynediad: Cofiwch fod y digwyddiad wedi gwerthu allan a bod rhestr aros. Os nad ydych chi’n gallu dod i EmpowerCymru dim mwy, anfonwch e-bost at NZIW@equinox.wales er mwyn i ni allu cynnig eich lle i rywun sydd ar y rhestr aros.

🚗 Parcio: Mae Gwesty Parkgate yng nghanol dinas Caerdydd ac mae mewn lleoliad cyfleus sydd o fewn pellter cerdded i feysydd parcio cyhoeddus fel Canolfan Siopa Dewi Sant a Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog (10 munud ar droed)

🚅 Trafnidiaeth: Mae Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog 10 munud ar droed o Westy Parkgate

🏢 Hygyrchedd: Mae’r gwesty’n darparu amrywiaeth o opsiynau hygyrchedd, ond rhowch wybod i ni os oes angen cymorth arbennig arnoch ac fe wnawn ni sicrhau bod hyn ar gael

📷 Ffotograffiaeth: Yn ystod y digwyddiad, bydd ffotograffydd yn tynnu lluniau a/neu fideos y gellir eu defnyddio at ddibenion marchnata, gan gynnwys eu cyhoeddi ar wefan Diwydiant Sero Net Cymru, cyfryngau cymdeithasol, neu drwy ddeunydd arall. Rhowch wybod i ni os nad ydych chi’n cydsynio i luniau a/neu fideos ohonoch gael eu defnyddio at ddibenion marchnata a hyrwyddo.

Gallwch archwilio’r rhaglen gyfan yma.