Cynllun arloesol SWIC ar gyfer twf glân

NZIW


Cynllun arloesol SWIC ar gyfer twf glân

Mae Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC ) yn llunio llwybr tuag at ddyfodol cynaliadwy, sero net, gyda’r nod o greu clwstwr diwydiannol o’r radd flaenaf sy’n cyd-fynd ag anghenion cymdeithasol Cymru yn 2030, 2040, 2050, a thu hwnt.

Gweledigaeth SWIC, sy’n cwmpasu cadarnleoedd diwydiannol de Cymru, o Aberdaugleddau i Gasnewydd, yw datblygu clwstwr diwydiannol cynaliadwy, gan fanteisio ar dreftadaeth ddiwydiannol unigryw’r rhanbarth.

Mae’r cynllun yn cynnwys addasu diwydiannau sylweddol, gweithluoedd medrus, ac asedau seilwaith ynni er mwyn cyfrannu’n sylweddol at y dirwedd sero net genedlaethol.

Yn wir, mae SWIC wedi ymrwymo i sicrhau diwydiant sero net yn ne Cymru erbyn 2040, sy’n cyfateb i ostyngiad rhyfeddol o 40% yng nghyfanswm allyriadau CO2 Cymru. Nod y targed uchelgeisiol hwn yw cadw 113,000 o swyddi a meithrin cynnydd cadarnhaol net mewn swyddi a datgloi £30 biliwn mewn cyfleoedd buddsoddi yn y rhanbarth ar yr un pryd.

Cynllun SWIC ar Waith:

Mae’r cynllun yn ymwneud â phum elfen sy’n hanfodol er mwyn i ddiwydiant de Cymru gyrraedd sero net:

  • Effeithlonrwydd Ynni ac Adnoddau
  • Newid Tanwydd
  • Canolfannau Twf Glân
  • Defnyddio Dal Carbon (CCU)
  • Dal a Storio Carbon (CCS)

Cefnogir yr elfennau hyn gan saith gwreiddyn sy’n sail i drawsnewidiad llwyddiannus, gan gwmpasu meysydd fel adnoddau a sgiliau, egwyddorion economi gylchol, cynhyrchu ynni glân, ymchwil ac arloesi, cyfreithiol a chynllunio, gofynion buddsoddi, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Caiff y cynllun ei roi ar waith mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid amrywiol, gan gynnwys cwmnïau cynhyrchu a dosbarthu ynni, safleoedd gweithgynhyrchu, awdurdodau lleol, y byd academaidd, a darparwyr gwasanaethau. Arweiniodd y cydweithrediadau hyn at ddatblygu Cynllun Clwstwr SWIC yn 2019, gyda phrosiectau’n cael eu hariannu gan yr Her Datgarboneiddio Diwydiannol (IDC).

Wrth i ddiwydiannau archwilio opsiynau datgarboneiddio, mae SWIC yn datblygu “SuperPlaces” a Chanolfannau Twf Glân er mwyn mynd i’r afael â gofynion seilwaith lleol. Er enghraifft, mae SuperPlace Aberdaugleddau, gyda phrosiectau fel HyLine Cymru, yn chwarae rhan ganolog yn y dasg o sicrhau systemau trydan sero net erbyn 2035.

Mae strategaeth SWIC yn cynnwys strwythurau cydnerth fydd yn gwasanaethu diwydiannau ymhell i’r 2050au a thu hwnt. Mae llwyddiant y Cynllun Clwstwr yn amlwg wrth greu gigawatiau o bŵer carbon isel sefydlog, sy’n cyd-fynd ag uchelgeisiau sero net cenedlaethol. Gan edrych i’r dyfodol, nod SWIC yw sicrhau mynediad at gyfleusterau storio CO2 a pharhau â’i drawsnewid rhanbarthol, a hynny dan arweiniad map blaengar o nodweddion allweddol. Am ragor o wybodaeth, gallwch archwilio’r cynllun llawn yma.

I grynhoi, nid buddsoddiad mewn datgarboneiddio diwydiannau yn unig yw cynllun arloesol SWIC ar gyfer twf glân — mae’n fuddsoddiad yn nyfodol Cymru a’r DU ehangach, gan baratoi’r ffordd ar gyfer yfory cynaliadwy a llewyrchus.