DIGWYDDIAD: EmpowerCymru — digwyddiad cydweithredol i ysbrydoli ac i gefnogi taith Cymru tuag at net sero
Mae Diwydiant Net Sero Cymru yn cyflwyno EmpowerCymru — digwyddiad undydd a fydd yn dod â diwydiannau, buddsoddwyr, sefydliadau sector cyhoeddus ac arweinwyr ynghyd er mwyn trafod profiadau a strategaethau i gefnogi taith Cymru tuag at net sero.
Bydd y digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal ar ddydd Llun Mawrth 11 rhwng 10yb a 4yh yng Ngwesty Parkgate, Caerdydd yn cael ei rannu yn ddau sesiwn: ‘Y daith hyd yma’ a ‘y daith ymlaen.’ Bydd y sesiwn boreol yn dathlu’r cynnydd a wnaed hyd yma tuag at ddatgarboneiddio diwydiannol yng Nghymru, ac yng Nghlwstwr Diwydiannol De Cymru yn benodol. Bydd sesiwn y prynhawn yn nodi cenhadaeth economaidd Cymru ynghyd â phwysigrwydd datgarboneiddio diwydiannol o ran gwneud Cymru’n ddeniadol ar gyfer gwasanaethau a chynnyrch cynaliadwy. Yn ogystal â hynny, byddwn yn archwilio pa bethau sydd eu hangen i wireddu cynllun Clwstwr Diwydiannol De Cymru.
Gyda diddordeb mynychu neu i wybod mwy? Cliciwch yma neu parhewch i ddarllen i weld yr agenda a’r prif siaradwyr.
Agenda:
🌅 Sesiwn y Bore: Y Daith Hyd Yma:
Sesiwn i drafod ac i ddathlu’r cynnydd a wnaed hyd yma tuag at ddatgarboneiddio diwydiannol yng Nghymru, ac yng Nghlwstwr Diwydiannol De Cymru yn benodol.
Cewch ddysgu gwirioneddau gan arweinwyr y diwydiant a chan rhanddeiliaid eraill yn y sector preifat a chyhoeddus, rhai sydd wedi bod yn rhan o Glwstwr Diwydiannol De Cymru.
🍽️Cinio Rhwydweithio:
Cyfle i gwrdd â chyfoedion, i gyfnewid syniadau, ac i feithrin partneriaethau gwerthfawr.
🚀 Sesiwn y Prynhawn: Y Daith Ymlaen:
Sesiwn sy’n nodi cenhadaeth economaidd Cymru ynghyd â phwysigrwydd datgarboneiddio diwydiannol o ran gwneud Cymru’n ddeniadol ar gyfer gwasanaethau a chynnyrch cynaliadwy.
Byddwn yn archwilio pa bethau sydd eu hangen i wireddu cynllun Clwstwr Diwydiannol De Cymru.
Cewch glywed gan banel Empower, dan gadeiryddiaeth yr ymgynghorydd economeg gynaliadwy a chyn-newyddiadurwr y BBC, Sarah Dickins, a fydd yn archwilio persbectif rhanddeiliaid y sector preifat a’r sector cyhoeddus.
Ymunwch â thrafodaethau ynglŷn â’r rhwystrau a’r cyfleoedd sy’n effeithio ar ddiwydiant Cymru, a pha gefnogaeth/buddsoddiad sydd ei angen er mwyn cyrraedd net sero.
🍸 Rhwydweithio:
Rhwng 4.00yh a 5.30yh bydd cyfle arall i gwrdd â chyfoedion, i gyfnewid syniadau, ac i feithrin partneriaethau gwerthfawr.
Prif siaradwyr a darlithoedd:
- Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol, Diwydiant Net Sero Cymru
- Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Y Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS
- Andrew Slade Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Cymru
- Michelle T. Davies, Arweinydd Gwasanaethau Cyfreithiol Cynaliadwyedd Byd-eang, EY
- Chris Lewis, Arweinydd Seilwaith Byd-eang, EY
- Dr Carol Bell, arbenigwr diwydiant a buddsoddwr
- Tom Glover, Cadeirydd Gwlad RWE UK
- Simon Ames, Rheolwr Gyfarwyddwr Dragon Group
- Richard Little, Cyfarwyddwr Canolfan Net Sero Penfro RWE
- Ruth Herbert, Prif Swyddog Gweithredol CCSA
- Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol CNC
- Simon Willis, Prif Swyddog Gweithredol, Heidelberg Materials
- Sarah Dickins, Cynghorydd Economeg Cynaliadwy, fel Cadeirydd.
Bydd rhagor o siaradwyr yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
Os hoffech fynychu, cliciwch yma.