DIGWYDDIAD: EmpowerCymru — digwyddiad cydweithredol i ysbrydoli ac i gefnogi taith Cymru tuag at net sero

NZIW


Mae Diwydiant Net Sero Cymru yn cyflwyno EmpowerCymru — digwyddiad undydd a fydd yn dod â diwydiannau, buddsoddwyr, sefydliadau sector cyhoeddus ac arweinwyr ynghyd er mwyn trafod profiadau a strategaethau i gefnogi taith Cymru tuag at net sero. 

Bydd y digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal ar ddydd Llun Mawrth 11 rhwng 10yb a 4yh yng Ngwesty Parkgate, Caerdydd yn cael ei rannu yn ddau sesiwn: ‘Y daith hyd yma’ a ‘y daith ymlaen.’ Bydd y sesiwn boreol yn dathlu’r cynnydd a wnaed hyd yma tuag at ddatgarboneiddio diwydiannol yng Nghymru, ac yng Nghlwstwr Diwydiannol De Cymru yn benodol. Bydd sesiwn y prynhawn yn nodi cenhadaeth economaidd Cymru ynghyd â phwysigrwydd datgarboneiddio diwydiannol o ran gwneud Cymru’n ddeniadol ar gyfer gwasanaethau a chynnyrch cynaliadwy. Yn ogystal â hynny, byddwn yn archwilio pa bethau sydd eu hangen i wireddu cynllun Clwstwr Diwydiannol De Cymru.

Gyda diddordeb mynychu neu i wybod mwy? Cliciwch yma neu parhewch i ddarllen i weld yr agenda a’r prif siaradwyr.

Agenda:

🌅 Sesiwn y Bore: Y Daith Hyd Yma:

Sesiwn i drafod ac i ddathlu’r cynnydd a wnaed hyd yma tuag at ddatgarboneiddio diwydiannol yng Nghymru, ac yng Nghlwstwr Diwydiannol De Cymru yn benodol.  

Cewch ddysgu gwirioneddau gan arweinwyr y diwydiant a chan rhanddeiliaid eraill yn y sector preifat a chyhoeddus, rhai sydd wedi bod yn rhan o Glwstwr Diwydiannol De Cymru. 

🍽️Cinio Rhwydweithio: 

Cyfle i gwrdd â chyfoedion, i gyfnewid syniadau, ac i feithrin partneriaethau gwerthfawr.

 🚀 Sesiwn y Prynhawn: Y Daith Ymlaen:

Sesiwn sy’n nodi cenhadaeth economaidd Cymru ynghyd â phwysigrwydd datgarboneiddio diwydiannol o ran gwneud Cymru’n ddeniadol ar gyfer gwasanaethau a chynnyrch cynaliadwy.

Byddwn yn archwilio pa bethau sydd eu hangen i wireddu cynllun Clwstwr Diwydiannol De Cymru.

Cewch glywed gan banel Empower, dan gadeiryddiaeth yr ymgynghorydd economeg gynaliadwy a chyn-newyddiadurwr y BBC, Sarah Dickins, a fydd yn archwilio persbectif rhanddeiliaid y sector preifat a’r sector cyhoeddus.

Ymunwch â thrafodaethau ynglŷn â’r rhwystrau a’r cyfleoedd sy’n effeithio ar ddiwydiant Cymru, a pha gefnogaeth/buddsoddiad sydd ei angen er mwyn cyrraedd net sero.

🍸 Rhwydweithio:

Rhwng 4.00yh a 5.30yh bydd cyfle arall i gwrdd â chyfoedion, i gyfnewid syniadau, ac i feithrin partneriaethau gwerthfawr.

Prif siaradwyr a darlithoedd: 

  • Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol, Diwydiant Net Sero Cymru  
  • Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Y Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS  
  • Andrew Slade Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Cymru  
  • Michelle T. Davies, Arweinydd Gwasanaethau Cyfreithiol Cynaliadwyedd Byd-eang, EY
  • Chris Lewis, Arweinydd Seilwaith Byd-eang, EY
  • Dr Carol Bell, arbenigwr diwydiant a buddsoddwr 
  • Tom Glover, Cadeirydd Gwlad RWE UK
  • Simon Ames, Rheolwr Gyfarwyddwr Dragon Group 
  • Richard Little, Cyfarwyddwr Canolfan Net Sero Penfro RWE 
  • Ruth Herbert, Prif Swyddog Gweithredol CCSA 
  • Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol CNC 
  • Simon Willis, Prif Swyddog Gweithredol, Heidelberg Materials 
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Economeg Cynaliadwy, fel Cadeirydd.  

Bydd rhagor o siaradwyr yn cael eu cyhoeddi yn fuan.  

Os hoffech fynychu, cliciwch yma.