Launchpad

Diwydiant Sero Net Cymru yn ennill cais i ddefnyddio hyd at £7.5m o gyllid grant Innovate UK i gefnogi diwydiannau De-orllewin Cymru i ddatgarboneiddio

NZIW


Mae Diwydiant Sero Net Cymru (NZIW) wedi llwyddo i ddatgloi £7.5m o gyllid Llywodraeth y DU i gefnogi busnesau bach a chanolig o Dde-orllewin Cymru, wrth iddynt ymgymryd â mentrau datgarboneiddio a cheisio cymryd rhan yn niwydiant sero net y rhanbarthau.

Mae’r cyllid gan Innovate UK – a sicrhawyd drwy ennill cystadleuaeth Swyddfa Rheoli Clwstwr Launchpad – yn caniatáu Diwydiant Sero Net Cymru arwain “Launchpad De-orllewin Cymru”, gan gefnogi a dyfarnu grantiau i brosiectau yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Mae cwmnïau micro a bach, sy’n darparu prosiectau mewn ynni adnewyddadwy, newid tanwydd, trydaneiddio a llawer mwy o feysydd cynaliadwyedd yn rhanbarth De-orllewin Cymru, yn cael eu hannog i wneud cais am y gwahanol rowndiau cyllido sydd ar gael drwy Launchpad.

Mae un o’r rowndiau hyn yn cynnwys y gystadleuaeth Arloeswyr Newydd — partneriaeth rhwng Innovate UK a Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn gynharach y mis hwn (7 Mai 2024).  Bydd yn galluogi busnesau micro a bach cofrestredig yn y DU i wneud cais am gyfran o hyd at £1.5m i gefnogi prosiectau sy’n tyfu gweithgareddau arloesi yn y diwydiant sero net yn Ne-orllewin Cymru.  — partneriaeth rhwng Innovate UK a Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn gynharach y mis hwn (7 Mai 2024).  Bydd yn galluogi busnesau micro a bach cofrestredig yn y DU i wneud cais am gyfran o hyd at £1.5m i gefnogi prosiectau sy’n tyfu gweithgareddau arloesi yn y diwydiant sero net yn Ne-orllewin Cymru.

Dywedodd Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Sero Net Cymru: “Mae De-orllewin Cymru yn enwog am ei glwstwr mewn datgarboneiddio diwydiannol, ei alluoedd arloesi a thechnoleg, sy’n creu swyddi a chyfleoedd medrus a chynhyrchiol iawn, gan gyfrannu at uchelgeisiau sero net a datgarboneiddio diwydiannol.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod busnesau Cymru a siaradwyr Cymraeg yn cael y gefnogaeth a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt yn ystod y newid i sero net – felly bydd eu prosiectau yn flaenllaw wrth i ni eu hystyried yn ystod y broses.

“Drwy ennill y Gystadleuaeth Swyddfa Rheoli Clwstwr, gallwn dyfu arloesedd yn sylweddol, wrth ddatblygu a chymhwyso technolegau mewn sero net a datgarboneiddio diwydiannol mewn marchnadoedd lleol neu fyd-eang — gan gefnogi ein nod o wneud Cymru yn wlad o ddewis ar gyfer nwyddau a gwasanaethau cynaliadwy.”

Bydd Diwydiant Sero Net Cymru yn canolbwyntio ar ehangu mynediad at fusnesau bach a chanolig yn benodol, mewn perthynas â phrosiectau datgarboneiddio yng Nghlwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), yn ogystal â defnyddio Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr (FLOW) — gyda’r nod o leihau 16 miliwn tunnell o allyriadau carbon erbyn 2024 a lansio chwyldro diwydiannol gwyrdd yn y rhanbarth.

Gyda Diwydiant Sero Net Cymru yn cymryd yr awenau gyda’r prosiect, bydd yn cael ei gefnogi gan dîm o bartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, yn ogystal â’r gymuned academaidd, gan gynnwys; Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Abertawe, Cyngor Sir Caerfyrddin, Busnes mewn Ffocws, BIC Innovation, Catapult ORE, Afallen LLP, Prifysgol Abertawe a menter SWITCH Sero Net Cymru.

Dywedodd Dean Cook, Cyfarwyddwr Lle a Ffyniant Bro yn Innovate UK: “Mae’r rhaglen Launchpad yn cyflawni ymrwymiad Innovate UK i sbarduno arloesedd lleol a thwf economaidd, gan gefnogi clystyrau busnes ledled y DU.

“Heddiw, rydym yn falch o gyhoeddi manylion cychwynnol y busnesau a’r prosiectau a fydd yn cael y buddsoddiad hwn. Rydym yn cefnogi busnesau yn Ne-orllewin Cymru i ddatblygu a defnyddio atebion arloesol mewn diwydiannau wrth iddynt newid i sero net.

“Bydd ein buddsoddiad yn sbarduno twf ar draws y rhanbarth a’r DU drwy helpu busnesau i ddod ag atebion arloesol newydd i’r farchnad sy’n bwysig i’r economi gyfan ac yn fyd-eang.”

Dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: “Mae’n newyddion gwych bod Diwydiant Sero Net Cymru wedi cael ei enwi fel y Sefydliad Rheoli Clwstwr i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r “Launchpad” yn Ne-orllewin Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi sefydlu Diwydiant Sero Net Cymru fel corff annibynnol er mwyn iddo allu datgloi’r union fath hwn o gyfle buddsoddi. Mae hwn yn gam arall tuag at ddatgarboneiddio diwydiant Cymru a chreu swyddi newydd yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol fel rhan o Gymru gryfach, decach a gwyrddach.”

Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Bydd y cais llwyddiannus hwn am gyllid yn helpu Castell-nedd Port Talbot a gweddill Cymru i adeiladu diwydiannau a swyddi cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, sy’n cyd-fynd yn berffaith â strategaeth hirdymor Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro ac Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: “Mae’r gystadleuaeth Arloeswyr Newydd yn y Diwydiant Sero Net yn rhoi cyfle i fusnesau micro a bach sy’n gweithio yn y diwydiannau Sero Net ymgysylltu â Launchpad De-orllewin Cymru. Byddant yn elwa o gyllid i gefnogi gweithgareddau arloesi yn y gweithle ac yn cyfrannu at dwf economaidd yn Sir Benfro ac ar draws De-orllewin Cymru.”