Dod yn aelod
Rydym yn cefnogi aelodaeth gynyddol o sefydliadau diwydiant, y byd academaidd, a'r sector cyhoeddus — a phob un yn cychwyn ar eu teithiau tuag at sero net.
Buddion craidd i aelodau
Os hoffai’ch sefydliad ddechrau ei daith sero net ei hun; dysgu gan fusnesau eraill sy’n gwneud yr un peth; a helpu Cymru i gyflawni ei thargedau sero net 2050 — yna rydych chi yn y lle iawn.
Gall aelodau ehangu eu cyrhaeddiad a chefnogi Cymru ar ei siwrnai sero net ehangach drwy adrodd stori eu sefydliadau drwy’r sylw a roddir i NZIW yn y cyfryngau, sylw ar LinkedIn ac astudiaethau achos ar y wefan. Gallwn gynnig pecyn cymorth cyfathrebu NZIW, am ddim, i aelodau i’w helpu i gymryd rhan.
Cymysgedd o weithdai personol a rhithwir, yn cael eu cynnig yn rheolaidd ac wedi’u teilwra i anghenion ein haelodau. Wrth ddarparu gofod i ddysgu, gofyn cwestiynau a rhannu gwybodaeth, mae’r digwyddiadau hyn yn grymuso ein haelodau i adeiladu cysylltiadau proffesiynol parhaol. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth am ein digwyddiadau i aelodau.
Mae ein Prif Swyddog Gweithredol, Ben Burggraaf, ar gael i siarad mewn digwyddiadau/cyfarfodydd cwmnïau (yn amodol ar ei argaeledd) — gyda’r nod o ysbrydoli gweithwyr a rhanddeiliaid ein haelodau; eu hannog i gyd-fynd â’ch amcanion sero net; a’ch helpu i feithrin diwylliant o gynaliadwyedd.
Bob chwarter byddwch yn derbyn e-gylchlythyr sy’n cynnwys crynodeb o newyddion NZIW; cymorth gan y Llywodraeth a chyfleoedd buddsoddi; adnoddau a chyhoeddiadau sydd newydd eu cyhoeddi a digwyddiadau a chyfleoedd rhwydweithio cenedlaethol, rhanbarthol a lleol perthnasol.
Mae ein haelodau’n cael arweiniad a chymorth wrth bontio i gyflawni sero net, ac rydyn ni’n rhannu llwybrau clir i leihau eu hallyriadau carbon diwydiannol yn effeithiol. Mae Diwydiant Sero Net Cymru wedi ymrwymo i gefnogi aelodau ar bob cam o’u taith cynaliadwyedd hefyd — felly, p’un a ydych chi’n dechrau arni nawr neu wedi dechrau ar y daith at sero net yn barod, bydd Diwydiant Sero Net Cymru yn rhoi’r arweiniad sydd ei angen arnoch chi i gyflymu eich cynnydd. O fis Chwefror 2024 ymlaen, bydd ein haelodau’n gallu cael mynediad at sesiynau cymhorthfa misol. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal bob ail fore Gwener y mis. Bydd aelodau’n gallu trefnu slot 30 munud i drafod lle maen nhw ar eu taith ac edrych ar sut gall Diwydiant Sero Net Cymru eu cefnogi a’u grymuso i greu dyfodol mwy gwyrdd. Mwy o wybodaeth cyn bo hir!
Rydyn ni’n helpu ein haelodau i sicrhau cyllid grant am brosiectau carbon isel drwy gyllid ymlaen llaw am gymorth i ysgrifennu ceisiadau arbenigol. Rydyn ni wedi dewis grŵp o ysgrifenwyr ceisiadau profiadol i’ch helpu i ddatblygu ceisiadau apelgar a fydd yn datgloi cyfleoedd buddsoddi yn llwyddiannus.
Bydd NZIW yn ariannu’r costau ymlaen llaw i gefnogi’r gwaith o ysgrifennu ceisiadau am brosiectau credadwy sy’n ceisio cael cymorth cyllid grant. Mae hyn werth hyd at £10,000 (heb gynnwys TAW) fesul prosiect ac mae angen i’r aelod ad-dalu’r gwerth os yw’r cais yn llwyddiannus. Mae’r gwasanaeth hwn yn amodol ar argaeledd cyllid digonol.
Gwasanaethau ychwanegol, yn amodol ar daliadau aelodaeth ychwanegol:
Cyflwyno prosiect cydweithredol: Gwasanaethau sydd ar gael i aelodau, yn amodol ar daliadau aelodaeth ychwanegol. Bydd ein partneriaethau rhanddeiliaid aml-lefel gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdodau Cynllunio Lleol a chyrff rheoleiddiol eraill, i ddadrisgio a chyflymu’r broses o gyflawni eich prosiectau Sero Net – tra’n cyd-fynd ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015). Drwy ddefnyddio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth pwrpasol ar gyfer eich prosiect (i’w gytuno rhwng pob parti), fel parti annibynnol y gellir ymddiried ynddo, byddwn yn cefnogi proses gydsynio eich prosiect.
Gall maint hyn gael ei bennu gan yr aelod ac mae’n dibynnu ar gwmpas y prosiect (y cytunir arno ymlaen llaw). Bydd costau’r gwasanaethau yn cael eu hailgodi ar yr aelodau ar gost, ynghyd â thâl gorbenion i ariannu cychwyn y prosiect a chydlynu’r rhaglen yn gyffredinol (tâl gorbenion i’w gadarnhau).
Mynediad at wasanaethau ysgrifennu ceisiadau proffesiynol: Rydyn ni’n helpu ein haelodau i sicrhau cyllid grant ar gyfer prosiectau carbon isel drwy roi cyllid ymlaen llaw am gymorth gan ysgrifenwyr ceisiadau profiadol. Rydyn ni wedi dewis grŵp o ysgrifenwyr cynigion profiadol i ddarparu cefnogaeth ac arbenigedd — byddan nhw’n eich helpu chi i greu cynigion diddorol a datgloi cyfleoedd buddsoddi. Bydd Diwydiant Sero Net Cymru yn ariannu’r costau ymlaen llaw i gefnogi’r gwaith o ysgrifennu ceisiadau am brosiectau credadwy sy’n ceisio cael cymorth cyllid grant, ar ôl cam sgrinio cychwynnol y prosiect. Mae hyn yn werth hyd at £10,000 (heb gynnwys TAW) fesul prosiect a bydd angen i’r aelod ad-dalu’r gwerth os yw’r cais yn llwyddiannus. Mae’r gwasanaeth hwn yn amodol ar argaeledd cyllid digonol.
Cyfrwng cyflawni ar y cyd (y sector cyhoeddus a phreifat): Bydd y partneriaethau aml-lefel rydyn ni’n eu datblygu â rhanddeiliaid fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdodau Cynllunio Lleol, a chyrff rheoleiddio eraill, yn lleihau risg ac yn cyflymu’r broses o gyflawni eich prosiectau Sero Net – ac yn eu cyflawni mewn ffordd sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015). Drwy ddefnyddio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth pwrpasol ar gyfer eich prosiect (i’w gytuno rhwng pob parti), fel parti annibynnol y gellir ymddiried ynddo, byddwn yn cefnogi proses gydsynio eich prosiect.
Gall maint hyn gael ei bennu gan yr aelod ac mae’n dibynnu ar gwmpas y prosiect (y cytunir arno ymlaen llaw). Bydd costau’r gwasanaethau yn cael eu hailgodi ar yr aelodau ar gost, ynghyd â thâl gorbenion i ariannu cychwyn y prosiect a chydlynu’r rhaglen yn gyffredinol (tâl gorbenion i’w gadarnhau).