A container ship

Galw am fuddsoddi yn seilwaith morgludo Co2 yn ne Cymru

NZIW


Adroddiad newydd yn cyflwyno achos economaidd cadarn dros fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU

Ym mis Rhagfyr 2023 gwnaethom ryddhau astudiaeth yn dangos achos economaidd cadarn dros fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU yn seilwaith morgludo CO2 yn ne Cymru.

Mae’r adroddiad — a ddatblygwyd gennym ar y cyd â nifer o’n haelod-sefydliadau, gan gynnwys. RWE, Dragon LNG, Associated British Ports a 7CO2 — yn tynnu sylw at fanteision economaidd buddsoddiad o’r fath ar ffurf Gwerth Ychwanegol Crynswth wedi’i ddiogelu a chreu swyddi.

Mae angen tua £2.4bn o arian cyhoeddus i gefnogi £8.6bn o fuddsoddiadau gan ddiwydiant — gyda chyfanswm y buddsoddiad o £11bn yn darparu £19bn o fuddion dros gyfnod o 20 mlynedd.

Bydd y buddsoddiad, fydd yn sicrhau gostyngiad cyfartalog o 8 miliwn tunnell o CO2 y flwyddyn (sy’n cyfateb i 50% ôl troed carbon diwydiannol de Cymru) — yn diogelu diwydiannau ac yn darparu sbardun ar gyfer datgarboneiddio diwydiannol pellach ar hyd a lled Cymru.

Mae’r achos yn rhagweld y bydd 10,000 o swyddi ychwanegol yn cael eu creu yn ystod cyfnod adeiladu’r prosiectau, gyda 600 o swyddi newydd parhaol ar gael unwaith y bydd y prosiectau’n weithredol.

Byddai gohirio buddsoddi mewn seilwaith morgludo CO2 yn arwain at ganlyniadau gwirioneddol o ran peryglu dad-ddiwydiannu pellach a chau gweithfeydd ymhellach, gan arwain at golli swyddi â chyflogau da yn yr ardal. Felly, yn y tymor byr, mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth y DU i ganiatáu i atebion cludo heb biblinellau (h.y. morgludo) allu bidio yn Nhrac 2 y rhaglen pennu dilynianiant o glystyrau.
Bydd technoleg dal a storio carbon (CCUS) yn chwarae rhan bwysig wrth ddatgarboneiddio diwydiant trwm yn ne Cymru — gyda buddsoddi yn y seilwaith yn caniatáu i’r CO2 a ddaliwyd gael ei gludo i storfeydd mewn lleoedd fel yr Alban a Humber.

Dywedodd ein Prif Swyddog Gweithredol, Ben Burggraaf: “Morgludo CO2 yw’r newid sydd ei angen arnom i leihau allyriadau a hybu twf economaidd ar draws rhanbarth de Cymru.”

“Mae ein hadroddiad yn dangos achos cryf dros fuddsoddiad cyhoeddus yn y seilwaith angenrheidiol — ac rydyn ni’n gobeithio y gallwn ddibynnu ar gefnogaeth Llywodraeth y DU i ymgorffori morgludo CO2 yn y broses ‘Trac 2.’ Bydd hyn yn ein galluogi i roi hwb i’r newid trawsnewidiol yn ein tirwedd ddiwydiannol yng Nghymru, er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, fel ei gilydd.”