Hwb ariannol o £7.5m i ‘Bwynt lansio’ De-orllewin Cymru

NZIW


Bydd y cyllid gan Lywodraeth y DU yn ysgogi arloesedd a thwf busnes mewn technolegau adnewyddadwy

Yn hydref 2023, arllwysodd Llywodraeth y DU £7.5m i mewn i ‘Bwynt lansio: diwydiant net sero, De-orllewin Cymru’ — prosiect partner i sbarduno arloesedd a thwf busnes mewn technolegau adnewyddadwy yn ne-orllewin Cymru.
Cynlluniwyd y rhaglen er mwyn adeiladu ar lwyddiant Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) sydd wedi’i hen sefydlu yn y rhanbarth — gyda busnesau ac ymchwilwyr yn gallu gwneud cais am gyfres o grantiau cystadleuol rhwng diwedd mis Hydref a 13 Rhagfyr 2023.

Bydd y prosiect Pwynt lansio, sydd wedi’i ddatblygu gan Ddiwydiant Sero Net Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro mewn partneriaeth ag Innovate UK, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn cyfrannu at sicrhau twf yn y sectorau sero net, ynni adnewyddadwy a’r economi gylchol. At hyn, bydd yn cyfrannu at gyflogaeth gwerth uchel yn ne-orllewin Cymru — sef yr ail allyrrydd carbon mwyaf yn y DU.

Bydd grantiau ar gael ar gyfer prosiectau arloesi dethol sy’n cefnogi ymdrechion trawsnewid i sero net yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin neu Sir Benfro yn 2024 a thu hwnt. Gall prosiectau llwyddiannus gynnwys buddsoddiadau mewn gwynt arnofiol ar y môr, cynhyrchu a dosbarthu hydrogen gwyrdd neu las, dal a storio CO2, a datrysiadau tanwydd cynaliadwy… Ond nid yw’r rhestr yn hollgynhwysol!

Cyhoeddir yr ymgeiswyr llwyddiannus yn 2024, a byddant yn derbyn:

  • Grant gwerth unrhyw swm rhwng £25,000 ac £1 miliwn, yn dibynnu ar yr effaith y mae’r prosiect yn debygol o’i gael ar y clwstwr.
  • Cefnogaeth arbenigol, lefel uchel gan swyddogion y sector cyhoeddus, y byd academaidd a phartneriaid yn y diwydiant ar ddatblygu achosion busnes ar gyfer buddsoddi cydgysylltiedig mewn cyfleoedd ariannu cyhoeddus yn y dyfodol.
  • Mynediad at strwythurau llywodraethu sefydledig, gan helpu i yrru prosiectau arloesi yn eu blaenau gan addasu, ar yr un pryd, i gyfleoedd newydd.
  • Cefnogaeth i ddatblygu prosiectau o safon uchel sy’n cael eu harwain gan fusnes mewn ymateb i gyfleoedd Ymchwil ac Arloesi yn y DU yn y dyfodol, gan helpu i ddatgloi cyllid.
  • Datblygu sgiliau i gefnogi trawsnewid y gweithlu.

Dywedodd ein Prif Swyddog Gweithredol, Ben Burggraaf: “Ein rôl yw sbarduno’r defnydd o dechnolegau carbon isel — trwy feithrin cydweithredu, ffurfio partneriaethau strategol, a datgloi cyfleoedd buddsoddi, fel yr un yma.

“Mae gan Gymru botensial enfawr i arwain y ffordd ym maes ynni adnewyddadwy a chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau cynaliadwy ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ein partneriaeth â ‘Phwyntiau lansio’ Innovate UK yn darparu’r gefnogaeth, ac yn helpu i ddatgloi’r buddsoddiad, sydd ei angen ar gynifer o fusnesau er mwyn mabwysiadu technolegau carbon isel.”

Cadwch olwg yma am ragor o wybodaeth am yr ymgeiswyr llwyddiannus!

I gael gwybod rhagor, ewch i: https://iuk.ktn-uk.org/programme/launchpads/