A student and teacher

Rhowch eich busnes ar y llwybr i sero net — gyda’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg

NZIW


Cyllid Llywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau sero net eich tîm…

Ym mis Gorffennaf, lansiodd Llywodraeth Cymru ei menter newydd, y Rhaglen Sgiliau Hyblyg: Sgiliau Sero Net — i helpu cyflogwyr ledled Cymru i ddechrau neu symud ymlaen ar eu teithiau tuag at sero net.

Mae’r fenter wedi’i chynllunio i fynd i’r afael â’r angen cynyddol am arferion cynaliadwyedd ym myd busnes yng Nghymru – gan roi’r offer i chi baratoi newid ystyrlon ar draws eich sefydliad.

Bydd y fenter yn rhoi cyfraniad ariannol i fusnesau tuag at y gost o hyfforddi gweithwyr, er mwyn helpu goresgyn yr heriau sero net y mae busnesau, sy’n union fel eich un chi, yn eu hwynebu.

Gellir darparu cyllid ar gyfer hyfforddiant sy’n cwmpasu ystod eang o sgiliau sero net, ac yn eu plith:

  • Cynhyrchu ynni adnewyddadwy a gwres, gan gynnwys effeithlonrwydd ynni a rheolaeth — sy’n cwmpasu systemau technoleg adnewyddadwy, technolegau storio ynni, archwilio a rheoli ynni a mwy.
  • Dal, defnyddio a storio carbon (CCUS) — gan gynnwys technolegau dal a defnyddio, dulliau storio carbon a datblygu seilwaith dal a storio carbon (CCS).
  • Newid tanwydd (i ffwrdd o nwy naturiol a/neu danwydd ffosil di-baid) — mae’r enghreifftiau’n cynnwys technolegau cynhyrchu hydrogen carbon isel, hylosgi hydrogen a’r broses drydanu.
  • Economi gylchol, deunyddiau cynaliadwy a gwastraff — yn cwmpasu egwyddorion economi gylchol, dylunio adeiladau gwyrdd, dewis deunyddiau cynaliadwy, asesu cylch oes a rheoli gwastraff.
  • Symudedd a chludiant trydan — technoleg cerbydau trydan (gan gynnwys modurol a rheilffyrdd), systemau trafnidiaeth cynaliadwy a datblygu seilwaith gwefru.
  • Amaethyddiaeth, coedwigaeth, coed a defnyddio tir — datblygu arferion amaethyddol cynaliadwy, amaeth-goedwigaeth ac atafaelu carbon, a rheoli defnydd tir ar gyfer lliniaru carbon.
  • Cynlluniau datgarboneiddio a chyfrifyddu carbon — yn cwmpasu egwyddorion cyfrifyddu carbon ac arferion da, ar gyfer datblygu cynlluniau sero net credadwy.
  • Adeiladu ac ôl-osod adeiladau preswyl — yn cwmpasu’r holl dechnegau ôl-osod, gan gynnwys inswleiddio toeon, waliau a lloriau i safon uchel a gosod systemau ynni adnewyddadwy clyfar.
  • Arwain a rheoli — hyfforddiant fel y gall gweithwyr ddatblygu cynlluniau sero net a chynlluniau busnes cysylltiedig, gan gynnwys rheoli’r gadwyn gyflenwi, rheoli ymddygiad a newid ac adrodd ar garbon.

Os ydych chi’n gyflogwr mewn unrhyw sector busnes yng Nghymru, fe’ch gwahoddir i wneud cais am y cyllid, cyn belled â bod yr hyfforddiant yn syrthio oddi mewn i un o’r categorïau a grybwyllir uchod. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn grant o 50% y costau hyfforddi sy’n dod oddi mewn i’r meysydd hyfforddi a restrir, hyd at uchafswm cyfraniad gan Lywodraeth Cymru o £25,000.

Wrth i Gymru symud ymhellach ar ei thaith i sero net, bydd y sgiliau hyn yn dod yn hanfodol i ddiwydiant trwm. Yn wir, credwn fod buddsoddi ynddyn nhw’n gynnar, gyda chymorth y llywodraeth, yn gam pwysig i ddiogelu eich busnes at y dyfodol.

Mae gwireddu ein huchelgeisiau ar gyfer allyriadau carbon sero-net yn hanfodol i’n planed a’n hecoleg, ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd enfawr i economi Cymru. Gall cyflymu datgarboneiddio a thwf diwydiannau gwyrdd helpu i ddatgloi swyddi a ffyniant — ac, ar yr un pryd, rhoi mantais gystadleuol i Gymru yn y ras i sero net.
Nid yw’r ceisiadau’n cau tan fis Mawrth 2024, felly mae dal amser i wneud cais am gyllid. I gael gwybod rhagor am y Rhaglen Sgiliau Hyblyg: Sgiliau Sero Net, ewch i: businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/rhaglen-sgiliau-hyblyg