A worker using some machinery

Diwydiant sero net yng Nghymru — pam ei fod yn angenrheidiol?

NZIW


Diwydiant sero net yng Nghymru — pam ei fod yn angenrheidiol?

Mae Cymru, ochr yn ochr â nifer o wledydd eraill, wedi gwneud ymrwymiadau i symud i economi allyriadau sero net. Mae hyn mewn ymateb i wyddoniaeth hinsawdd sy’n dangos, er mwyn atal newid yn yr hinsawdd, fod yn rhaid i allyriadau carbon ddod i ben — nid yw eu lleihau yn ddigon.

Mae ‘sero net’ yn golygu bod unrhyw allyriadau’n cael eu cydbwyso drwy amsugno swm cyfatebol o’r atmosffer — mae hyn yn angenrheidiol, oherwydd er mwyn i’r hinsawdd sefydlogi, mae angen i allyriadau carbon ostwng, ar gyfartaledd, i sero.
Gan fod diwydiant trwm yn gyfrifol am dros 50% allyriadau carbon Cymru, mae’n hollbwysig ein bod yn cefnogi’r defnydd o dechnolegau carbon isel, er mwyn parhau i gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau gwerth uchel yng Nghymru.
Os na wneir newidiadau sylweddol, bydd tymheredd y blaned yn parhau i godi, gan waethygu effeithiau’r cynhesu cynyddrannol rydyn ni eisoes yn eu gweld yng Nghymru, gan gynnwys patrymau tywydd afreolaidd — a allai yn y pen draw adael rhannau o Gymru yn anghyfaneddol.

Mae angen i ni alluogi diwydiant Cymru i leihau allyriadau ar gyfradd sy’n cyfyngu ar gynhesu byd-eang ac, ar yr un pryd, bwrw ati i ddatblygu’r seilwaith er mwyn lleihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil di-baid y tu hwnt i 2050.
Ein nod yw grymuso busnesau i gyflawni newid sydd, nid yn unig yn hanfodol i gefnogi’r diwydiannau ynni-ddwys sy’n peri bod Cymru yn ffynnu, ond sy’n dyngedfennol er mwyn cyrraedd targedau sero net Cymru a’r DU ehangach.

Hoffech chi rymuso llwybr eich busnes i ddyfodol gwyrddach?

Cadwch lygad ar ein gwefan neu dilynwch ein tudalen LinkedIn — am newyddion byw a digwyddiadau a fydd yn helpu yn ogystal ag yn ysbrydoli…