Yn ôl i'r eirfa
Dileu allyriadau
Diffiniad
Mae dileu allyriadau, neu’n benodol Dileu Carbon deuocsid (CDR), yn broses lle mae carbon deuocsid (CO2) yn cael ei dynnu o’r atmosffer trwy weithgareddau dynol bwriadol a’i storio’n barhaol mewn cronfeydd daearegol, daearol neu gefnforol, neu mewn cynhyrchion. Gelwir y broses hon hefyd yn ddileu carbon, dileu nwyon tŷ gwydr neu allyriadau negyddol.