Yn ôl i'r eirfa
Newid Hinsawdd
Diffiniad
Mae newid hinsawdd yn cyfeirio at newidiadau hirdymor mewn tymheredd a phatrymau tywydd. Gall sifftiau o’r fath fod yn naturiol, oherwydd newidiadau yng ngweithgarwch yr haul neu ffrwydradau folcanig mawr. Ond ers y 1800au, mae gweithgareddau dynol wedi bod yn brif yrrwr newid hinsawdd, yn bennaf oherwydd llosgi tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy.