Yn ôl i'r eirfa
Sero Net (ymrwymiad cyfreithiol)
Diffiniad
Mae’r Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd yn ymrwymo llywodraeth y DU yn ôl y gyfraith i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o leiaf 100% o lefelau 1990 (sero net) erbyn 2050. Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau o’r gweinyddiaethau datganoledig (yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon), sy’n cyfrif ar hyn o bryd am tua 20% o allyriadau’r DU. Roedd y targed o 100% yn seiliedig ar gyngor o adroddiad 2019 y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ‘Sero Net – Cyfraniad y DU at atal cynhesu byd-eang’.